Profiad
I gyflawni ein gwaith mae Burum yn adeiladu ar sgiliau, profiad a chysylltiadau.
O ran y darnau papur yr wyf yn ei ddal mae gennyf radd mewn Economeg a Daearyddiaeth, a graddau uwch mewn Cynllunio Defnydd Tir a Rheoli Busnes. Yr wyf hefyd yn aelod o’r RTPI ac yn Gynllunydd Siartredig ers 1982.
Yn help i hyn oll mae blynyddoedd o brofiad o weithio gyda phob math o sefydliadau – o weithio i mi fy hun i weithio mewn sefydliadau mawr -yn y sectorau preifat a “thrydydd” yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Yr wyf hefyd wedi gwasanaethu gyda nifer o fudiadau gwirfoddol ac elusennol.
Ond gan amlaf nid yw’r sgiliau a’r profiad hwnnw’n ddigon – rhaid tynnu eraill i mewn ar gyfer creu tîm llwyddiannus neu gael barn arbenigol. A dros y blynyddoedd rwyf wedi arwain a gweithio ochr yn ochr a nifer o arbenigwyr eraill.
Ond llawn cyn pwysiced yn fy nhyb i yw’r gallu i ddod ymlaen gyda phobl fel chi, i wrando a deall eich hanghenion a’u dyheadau; y gallu wedyn i ddefnyddio sgiliau a phrofiad i ddadansoddi a deall yr amgylchedd a’r sefyllfa yr ydych ynddo ac yna i weithio gyda chi, phwy bynnag arall sydd angen, i greu cynllun gweithredu ar sut i symud ymlaen.


